Memo Caergrawnt am ysgolion preifat yn 'niweidiol' i ddisgyblion Cymraeg

Coleg Trinity Hall, Caergrawnt gyda'r afon Cam o'i flaen.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn y feirniadaeth, mae Trinity Hall wedi pwysleisio nad oes unrhyw newid i'w bolisi derbyn

  • Cyhoeddwyd

Mae bwriad un o golegau Prifysgol Caergrawnt i annog rhagor o geisiadau gan ddisgyblion o ysgolion preifat yn anfon "neges niweidiol" am allu disgyblion o ysgolion gwladol, yn ôl myfyriwr.

Mae coleg Trinity Hall ym Mhrifysgol Caergrawnt wedi eu beirniadu ar ôl i'r Guardian adrodd bod y coleg yn bwriadu ychwanegu grŵp bach o ysgolion preifat at eu rhestrau ebost er mwyn annog mwy o geisiadau gan eu disgyblion.

Cytunodd y coleg ar y cynllun ym mis Rhagfyr, gyda memo mewnol yn honni bod "reverse discrimination" yn erbyn disgyblion o ysgolion preifat yn bryder, a bod angen gwella "ansawdd" ymgeiswyr.

Cododd y geiriad bryder ymhlith ymgyrchwyr, gyda rhai aelodau o staff y coleg hefyd yn dweud bod y neges yn tanseilio blynyddoedd o waith i ehangu mynediad i fyfyrwyr o ysgolion gwladol, gan gynnwys ysgolion Cymraeg.

Mae myfyrwyr yng Nghaergrawnt fel Gwennan Staziker yn dweud bod iaith o'r fath yn gallu siapio hyder disgyblion o gefndiroedd llai traddodiadol, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, sydd i gyd yn ysgolion gwladol yng Nghymru.

Yn dilyn y feirniadaeth, mae Trinity Hall wedi ymddiheuro am y gofid a achoswyd gan eiriau'r memo, gan bwysleisio nad oes unrhyw newid i'w bolisi derbyn nac i'w hymrwymiad i ehangu mynediad.

Gwennan yn sefyll o flaen coleg yng Nghaergrawnt. Mae hi'n gwisgo cot las ac yn dal beic.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwennan Staziker, sy'n astudio pensaernïaeth yng Nghaergrawnt, yn dweud bod y cynllun yn anfon neges fod disgyblion o ysgolion gwladol a Chymraeg yn llai abl

Dywedodd Gwennan, sydd o Fro Morgannwg, bod yr iaith a ddefnyddiwyd yn y memo'n gwneud iddi deimlo'n "grac" ac yn anfon "neges niweidiol" am allu disgyblion o ysgolion gwladol.

"Yn ei hanfod, ma' be' mae Trinity Hall wedi dweud yn labelu plant o ysgolion gwladol - a thrwy hynny hefyd plant sy'n siarad Cymraeg - fel rhai llai abl. A dydyn ni ddim yn dwp," meddai'r cyn-ddisgybl yn Ysgol Bro Morgannwg.

Yn ôl Gwennan, nid oes sail i'r honiad o "reverse discrimination", gan mai tua 7% o ddisgyblion y DU sy'n mynd i ysgolion preifat, ond maent yn dal i feddiannu bron i 30% o leoedd ar gyrsiau Caergrawnt, meddai.

"Os wyt ti'n meddwl am y ratio o bobl sy'n cael lle, ma' da ti siawns well o gael lle os wyt ti'n mynd i ysgol breifat, beth bynnag."

'Annheg dweud bod un yn well na'r llall'

Mae hi hefyd yn rhybuddio y gallai'r ddadl anfon neges arbennig o niweidiol at ddisgyblion o ysgolion Cymraeg, gan nad ydyn nhw'n ysgolion preifat, ac nad oes ganddyn nhw'r un adnoddau a thraddodiad o anfon disgyblion i'r prifysgolion hyn.

"Cafodd Caergrawnt a Rhydychen eu sefydlu ar gyfer pobl sy'n dod o'r un cefndir â phobl aeth i ysgolion preifat a bonedd, felly fe fydd y pobl yna bob amser yn rhoi ceisiadau mewn, achos dyna be' mae pobl yn disgwyl iddyn nhw wneud.

"Dwi'n credu ma'r ffaith bod Trinity Hall wedi dweud bo' nhw isie disgyblion o 'ansawdd gwell' sy'n dod o ysgolion preifat yn mynd i hala i bobl o ysgolion Cymraeg hefyd i beidio eisiau rhoi cais.

"Ma' fe just yn annheg i drio dweud bod un yn well na'r llall. Dyw pobl o ysgolion gwladol ddim just yn cyrraedd fan hyn ar hap - ry' ni'n gweithio'n really galed," meddai.

'Dyw Caergrawnt ddim yn le i rywun fel fi'

Dywedodd Gwennan na fyddai hi wedi ystyried ymgeisio i Gaergrawnt o gwbl heb gefnogaeth Academi Seren - menter gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dysgwyr galluog o ysgolion gwladol.

"Gall iaith fel hyn wneud i bobl feddwl 'dyw Caergrawnt ddim yn le i rywun fel fi'. Roeddwn i'n meddwl hynny fy hun cyn mynd ar drip trwy Seren.

"Sai'n credu buaswn i wedi rhoi cais i Gaergrawnt heb Seren o gwbl."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae Seren yn cefnogi dysgwyr disgleiriaf Cymru, waeth beth fo'u cefndir economaidd neu eu sefyllfa bersonol, i gyflawni eu potensial a gwneud y penderfyniad cywir iddyn nhw ynghylch lle i astudio."

'Ddim yn drysu cyfle â gallu'

Mewn ymateb i Cymru Fyw, dywedodd Trinity Hall nad yw wedi newid ei bolisi derbyn nac ei hymrwymiad i ehangu mynediad.

Dywedodd meistr y coleg, Mary Hockaday, ei bod yn ymddiheuro am y "gofid a dicter a achoswyd gan rai o eiriau'r memo mewnol", gan ddweud bod hynny wedi bod yn "destun myfyrio sylweddol o fewn y coleg".

Dywedodd hefyd nad yw'r coleg yn "drysu cyfle â gallu" a bod ganddynt y sgiliau i asesu potensial academaidd yng nghyd-destun cefndir ac addysg pob ymgeisydd.

"Gwyddom o brofiad fod ein myfyrwyr sy'n perfformio orau yn dod o bob rhan o'r wlad, pob math o ysgol a phob cefndir."

Yn ôl y coleg, mae data'n dangos bod 73% o'i fyfyrwyr domestig dros y tair blynedd diwethaf wedi dod o ysgolion gwladol ar gyfartaledd, gyda mwy na 20% o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.

Dywedodd Ms Hockaday bod y camau yn "berthnasol i nifer fach o bynciau'r dyniaethau lle mae ceisiadau'n gostwng, yn rhannol oherwydd bod gan ddisgyblion lai o fynediad i astudio'r Lefelau A perthnasol mewn ysgolion gwladol".

Dywedodd mai'r cynllun yw "ychwanegu nifer fach o ysgolion annibynnol at restr e-bost sy'n cynnwys dros 1,000 o ysgolion gwladol, i hysbysebu gwaith allgymorth, sesiynau holi ac ateb ar-lein a phodlediadau addysgiadol am y pynciau hyn".

"Rydym yn deall pam mae'r iaith a ddefnyddir yn y memo wedi achosi gofid ond nid yw'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gynnig lleoedd i fyfyrwyr sydd â'r potensial i ffynnu.

"Rydym yn falch o gefnogi cyfleoedd ledled y genedl ac nid yw ein hymrwymiad i hynny, ac i'n myfyrwyr, wedi newid."

Pynciau cysylltiedig